Ymgynghoriad Cyhoeddus Fferm Wynt Ogwr Uchaf
Rydym bellach wedi cyflwyno ein cais Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) ar gyfer cysylltiad grid newydd i gysylltu Fferm Wynt Ogwr Uchaf â'n rhwydwaith dosbarthu trydan yng Nghymru.
Os caiff ei gymeradwyo gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW, Awdurdod Cynllunio Cymru), byddai'r cysylltiad newydd yn Nyffrynnoedd Ogwr Uchaf, Garw a Llynfi ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd-Port Talbot, yn cysylltu Fferm Wynt newydd Ogwr Uchaf â'n rhwydwaith mewn man sy'n agos at safle Fferm Wynt Foel Trawsnant sydd wedi cael caniatâd. I bweru'r fferm wynt newydd, byddai 9km (5.6 milltir) o gebl trydan 66kV newydd yn cael ei osod, gan gynnwys 4.1km (2.5 milltir) o linellau pŵer uwchben (OHL) a gludir gan bolion pren a 4.9km (3 milltir) o geblau tanddaearol (UGC).
Wedi'i lleoli yng nghymoedd Garw ac Ogwr, bydd Fferm Wynt Ogwr Uchaf yn defnyddio saith tyrbin i gynhyrchu 25MW o ynni adnewyddadwy y flwyddyn - digon i bweru tua 16,500 o gartrefi. Cafodd fferm wynt Ogwr Uchaf ei chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru yn 2022.
Bydd ein cais cynllunio wedi'i gwblhau ar gael i'w weld ar wefan PEDW pan fyddant yn fodlon bod ein cais yn bodloni eu holl ofynion. Fodd bynnag, gallwch chi dal i weld ein deunyddiau ymgynghori yn ein llyfrgell ddogfennau.
Y Cynigion
Os caiff ei gymeradwyo, byddai'r llwybr cysylltu yn cynnwys llinellau uwchben a fydd wedi'u lleoli ar bolion pren a cheblau tanddaearol a fyddai'n gorwedd yn rhannol ar draws ffiniau Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, gan ddechrau a gorffen yn yr ardal a gwmpesir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
![]()
Mae natur y gwaith yn golygu na fyddai unrhyw ffyrdd yn cael eu cau'n llwyr. Lle mae angen cau rhan o'r ffordd, byddai rheoli traffig a goleuadau traffig ar waith tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo. Byddem yn gweithio gyda'r awdurdodau priffyrdd i drefnu a lleihau'r aflonyddwch o ganlyniad i'r gwaith hwn.
Byddai'r llwybr arfaethedig yn cychwyn o'r cysylltiad grid arfaethedig â Foel Trawsnant i'r gogledd-orllewin o Nantyffyllon ac yn mynd ymlaen i Fferm Wynt Ogwr Uchaf, fel a ganlyn:
- Yn dechrau i'r gorllewin o'r A4063, ger Caerau, gyda chysylltiad 'T Off’ o Gysylltiad Grid Foel Trawsnant, fel Llinell Uwchben (OHL[BH1.1]) am oddeutu 1.1km (hanner milltir).
- Wrth i'r llwybr gyrraedd Caerau, mae'n trawsnewid yn Geblau Tanddaearol (UGC[BH2.1]) gan ddilyn y rhwydwaith priffyrdd presennol am oddeutu 1.7km (1 filltir) i'r gogledd.
- I'r dwyrain o Is-orsaf Caerau, mae'r llwybr yn mynd yn ôl i OHL am tua 3km (2 filltir) i'r dwyrain.
- I'r gorllewin o Glawdd Mawr, mae'r llwybr yn trawsnewid yn ôl i UGC ac yn parhau tua'r dwyrain am 3.2km (2 filltir) tuag at yr is-orsaf yn fferm wynt Ogwr Uchaf. Yn ystod y rhan hon o'r llwybr, byddai'n teithio'n rhannol drwy dir comin Mynydd Llangeinwyr.
![]()
Beth sy'n digwydd nawr?
Fe wnaethon ni gyflwyno ein cais i PEDW ym mis Ebrill 2026. Unwaith y bydd PEDW wedi dilysu ein cais – h.y. eu bod yn fodlon bod ein cais yn bodloni eu holl ofynion – byddant yn cynnal ymgynghoriad am 5 wythnos ar y cynigion. Yn ystod y cyfnod hwn rhaid cyflwyno sylwadau'n uniongyrchol i PEDW, ac ni chaiff sylwadau a dderbynnir gan y Tîm Prosiect eu hystyried yn rhan o broses adborth PEDW.
Yna bydd PEDW yn archwilio ein cais, gan gynnal gwrandawiadau am y cynllun os oes angen, cyn gwneud argymhelliad ar benderfyniad ar gyfer y cynllun. Er y byddem yn disgwyl i'r broses hon gymryd tua chwe mis, mae hyn yn llwyr o fewn dwylo PEDW a gallai gymryd cyfnod hirach neu fyrrach.
Rydym yn rhagweld y byddai'r gwaith adeiladu'n dechrau yn Haf 2028 ac yn dod i ben yng Ngwanwyn 2029, gyda'r llinell yn cael ei phweru ac yn barod i drosglwyddo pŵer bryd hynny, gan ganiatáu iddi gludo ynni cartref i'r grid a chryfhau ein diogelwch ynni.
Eich adborth
Yn ystod datblygiad ein cais cynllunio rydym wedi cynnal dau gylch o ymgynghori, y gyntaf ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2025, a'r ail o fis Tachwedd 2025 i fis Ionawr 2026.
Yn ystod y broses hon, gwnaethom nifer o newidiadau i'r cynllun ac i'n hymgynghoriad i adlewyrchu barn a safbwyntiau'r gymuned a rhanddeiliaid allweddol eraill. Y newidiadau hyn yw:
- Symudwyd y newid o geblau tanddaearol i linellau uwchben i'r dwyrain o Is-orsaf Caerau.
- Ar ôl ceisiadau gan CADW, symudwyd y newid o linellau uwchben i geblau tanddaearol ger Fferm Wynt Ogwr Uchaf i ochr orllewinol Clawdd Mawr ger Mynydd Caerau, gyda'r cebl tanddaearol yn llwybro trwy draciau a gloddiwyd fel rhan o Barc Ynni Adnewyddadwy Llynfi Afan.
- O few ffin Fferm Wynt Ogwr Uchaf, mae'r llinell wedi'i hailgyfeirio i aliniad newydd sy'n dilyn llwybrau i'w hadeiladu fel rhan o'r fferm wynt newydd, byddai hyn yn cynnwys darn byr trwy dir comin Mynydd Llangeinwyr.
- Ar ôl adborth gan yr Awdurdod Glo, mae lleoliad rhai polion wedi'i newid i osgoi hen geuffyrdd mwyngloddiau.
- Newidiwyd y deunyddiau ymgynghori i gynnwys pellteroedd mewn Milltiroedd a Chilometrau ar ôl adborth gan Gyngor Tref Maesteg.
Rydym wedi ysgrifennu adroddiad ymgynghori fel rhan o'r broses hon, gellir dod o hyd i hwn fel rhan o'r Cais Cynllunio ac mae ar gael i'w weld ar wefan PEDW.
I ddeall sut y gwnaethom ddefnyddio eich data drwy gydol y cyfnodau ymgynghori, darllenwch ein 'Polisi Preifatrwydd GDPR' yma.
Dim ond at ddiben y cais cynllunio y defnyddiwyd unrhyw adborth a dderbyniwyd a'i anfon ymlaen at PEDW. Ni chafodd ei ddatgelu i unrhyw drydydd partïon.
Anfonwyd eich manylion cyswllt yn gyfrinachol at PEDW er mwyn i chi gael gwybod am eu hymgynghoriad ar y cais ac ni chawsant eu rhestru mewn unrhyw ddogfennaeth cais cynllunio.
Gallwch ofyn i ni ddileu eich manylion unrhyw bryd drwy gysylltu â ni gan ddefnyddio'r manylion isod neu ar y dudalen 'Cysylltu â Ni'.
Cysylltwch
Gallwch gysylltu â ni trwy’r dulliau canlynol:
- Ffôn: 01656 334 319
- E-bost: nged.upperogmore@nationalgrid.co.uk
- Post: Freepost GRASSHOPPER CONSULT (nid oes angen stamp na chyfeiriad pellach)
Bydd y manylion cyswllt uchod yn eich rhoi mewn cysylltiad â Grasshopper Communications sy'n ein cefnogi gyda'r ymgynghoriad.
Eich cwestiynau wedi'u hateb
Pa effeithiau fyddai ar y gymuned leol?
Os caiff ei gymeradwyo, fel rhan o'r gwaith adeiladu, byddai effeithiau ar y ffyrdd rhwng Croeserw a Dyffryn wrth i ni adeiladu rhan danddaearol y llinell. Dim ond ar un ochr i'r ffordd y byddai angen i'r gwaith ddigwydd ac felly, gyda goleuadau traffig, byddem yn gallu sicrhau y gallai pawb gyrraedd lle mae angen iddynt fod.
A fyddai'r pŵer yn cael ei ddefnyddio'n lleol?
Bydd pŵer o'r fferm wynt yn cael ei allforio i'r is-orsaf yn y Pîl. Pan gynhyrchir trydan gan ffynonellau adnewyddadwy fel gwynt, fe'i defnyddir, fel arfer, yr agosaf at y man lle caiff ei gynhyrchu gyntaf. Gallai hyn fod gan gartrefi a busnesau cyfagos, neu gan gwsmeriaid eraill sydd wedi'u cysylltu â'r rhwydwaith lleol. Pan fo mwy o drydan nag y gellir ei ddefnyddio'n lleol, mae’n cael ei allforio ymhellach i ffwrdd.
Beth sydd wedi eich atal rhag cysylltu ag is-orsaf bresennol Caerau?
Nid oes gan is-orsaf bresennol Caerau y capasiti i ddarparu ar gyfer y cysylltiad grid ag Ogwr Uchaf. Pe baem yn cysylltu'r prosiect hwn ag is-orsaf Caerau, byddai'r gwaith yn llawer mwy helaeth ac aflonyddgar. Yn ogystal, drwy adeiladu'r cysylltiad grid newydd hwn, rydym yn diogelu capasiti'r rhwydwaith ar gyfer y dyfodol.
Ble alla i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Gysylltiad Grid Foel Trawsnant?
Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, sy'n cael ei gyflawni gan Pennant Walters, ar gael yn ftgrid.co.uk
Sut fydd y cysylltiad grid yn cael ei gyflwyno?
Ein cynnig cysylltiad grid yw llinell 66kv yn rhedeg am tua 9km (5.5 milltir) gyda 4.1km (2.5 milltir) uwchben a 4.9km (3 milltir) o dan y ddaear.
Pa seilwaith sydd ei angen ar gyfer y llinellau uwchben?
Dim ond polion H pren fyddai'r cynllun hwn yn eu defnyddio ar gyfer y cysylltiad uwchben, heb fod angen adeiladu tyrau dur.
Pam nad yw'r holl linell yn cael ei gosod o dan y ddaear?
Fel rhan o ddatblygiad y cynllun hwn rydym wedi gwerthuso'r holl opsiynau ar gyfer y llinell, gan gynnwys dyletswyddau rheoleiddio, daearyddiaeth a'r amgylchedd lleol, cost, a barn rhanddeiliaid. Mae rhai o’r rhain yn cael eu hehangu arnynt isod:
Effeithiau ar y tir
Gall tanddaearu amharu ar gynefinoedd sensitif neu safleoedd archaeolegol a gall olygu bod angen defnydd tir ac adeiladu helaeth, a all hefyd fod yn fwy effeithiol, heriol a chostus.
Cynnal a Chadw Gall cynnal a chadw
ac atgyweirio ceblau tanddaearol fod yn fwy cymhleth a gall gymryd mwy o amser o'i gymharu â cheblau uwchben.
Cost
Yn gyffredinol, mae ceblau tanddaearol yn ddrytach i'w gosod a'u cynnal o'i gymharu â cheblau uwchben, yn enwedig ar gyfer ceblau foltedd uchel.
Rydym hefyd yn ystyried barn a gofynion ein cwsmeriaid yn ogystal â rhanddeiliaid a'r gymuned.
A fydd yn rhaid i chi gau unrhyw ffyrdd i osod ceblau tanddaearol?
Bydd rhannau o'r ceblau tanddaearol yn cael eu gosod o dan y briffordd bresennol ar yr A4063 trwy Gaerau. Ni ragwelir y bydd angen cau unrhyw ffyrdd yn llwyr, fodd bynnag, mae natur y gwaith yn golygu y bydd effeithiau ar y rhwydwaith ffyrdd.
Byddwn yn cytuno ar fesurau rheoli traffig priodol gyda'r awdurdod priffyrdd lleol (Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr). Bydd manylion y gwaith hwn yn cael eu nodi yn y Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu terfynol a disgwylir iddo gymryd hyd at 6 mis i'w gwblhau.
Pa newidiadau ydych chi wedi'u gwneud o ganlyniad i'r ymgynghori?
Yn ystod y broses ymgynghori rydym wedi gwneud sawl newid i'r cynigion gan gynnwys: newidiadau i'r llwybr a chydbwysedd tanddaearu/uwchddaearu, symud polion, gwybodaeth mewn deunyddiau.
Beth fydd yn digwydd nawr?
Rydym wedi cyflwyno ein cais Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol i Benderfyniadau Cynllunio Amgylchedd Cymru a fydd yn adolygu ein cais ac yn gwneud penderfyniad ynghylch a ddylid caniatáu neu wrthod ein cais. Rydym yn rhagweld y bydd y broses hon yn cymryd tua 6 mis.