Ymgynghoriad Cyhoeddus Fferm Wynt Ogwr Uchaf
Mae ymgynghoriad anffurfiol ar gynigion i gysylltu fferm wynt newydd â'n rhwydwaith dosbarthu trydan yng Nghymru ar agor nawr tan yr 16eg o Orffennaf.
Bydd y cysylltiad newydd yn Ogwr Uchaf, Garw ac yng Nghymoedd Llynfi ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot, yn cysylltu fferm wynt newydd Ogwr Uchaf â'n rhwydwaith ar bwynt yn agos at safle fferm wynt Foel Trawsnant sydd wedi derbyn caniatâd. I bweru'r fferm wynt newydd, bydd 9km o gebl trydan 66kV newydd yn cael ei osod, gan gynnwys 4.8km o linellau pŵer uwchben a 4.2km o geblau tanddaearol.
Bydd y safle sydd wedi'i leoli yng nghymoedd Garw ac Ogwr yn defnyddio saith tyrbin i gynhyrchu 25MW o ynni adnewyddadwy bob flwyddyn - digon i bweru tua 16,500 o gartrefi.
Cafodd y datblygiad ei gymeradwyo gan Llywodraeth Cymru yn 2022. Mae'r cynigion bellach yn cael eu cyflwyno i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW), yr awdurdodau lleol a chymunedau lleol ar gyfer ymgynghori.
Y Cynigion
Bydd y llwybr yn cynnwys llinellau uwchben a fydd wedi'u gosod ar bolion pren, a cheblau tanddaearol. Bydd y rhain yn gorwedd yn rhannol ar draws y ffin rhwng Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, gan ddechrau a gorffen yn yr ardal sydd dan awdurdod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd y rhan tanddaearol o'r llinell yn cael ei chwblhau mewn dau ddarn, gan ddechrau o dan y ffordd trwy Caerau a gorffen yn agos at yr is-orsaf bresennol. Bydd yr ail ddarn yn rhedeg tua'r dwyrain o Fynydd Caerau tuag at yr is-orsaf ar fferm wynt Ogwr Uchaf lle mae'r llinell yn gorffen. Mae disgwyl i’r gwaith priffyrdd gymryd tua phedwar mis i'w gwblhau. Bydd ein timau cynllunio arbenigol yn cysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gydlynu mesurau rheoli traffig priodol drwy gydol y gwaith.
Byddai’r llwybr arfaethedig yn cychwyn o’r cysylltiad grid arfaethedig â Foel Trawsnant i’r gogledd-orllewin o Nantyffyllon ac yn mynd ymlaen i Fferm Wynt Ogwr Uchaf, fel a ganlyn:
- Mae’r llwybr yn dechrau i’r gorllewin o’r A4063 ger Caerau fel Llinell Uwchben am oddeutu 1.1km
- Wrth i’r llwybr gyrraedd Caerau, bydd yn newid i mewn i geblau tanddaearol gan ddilyn y rhwydwaith priffyrdd presennol am oddeutu 1.7km i’r gogledd
- Yn union cyn cyrraedd Ffordd Brynheulog, mae’r llwybr yn symud yn ôl i linellau uwchben am oddeutu 3.7km i’r dwyrain
- I’r gogledd-orllewin o Blaengarw, yn agos at Mynydd Caerau, mae’r llwybr yn symud yn ôl i geblau tanddaearol ac yn parhau i’r dwyrain am oddeutu 2.5km tuag at gyfeiriad Fferm Wynt Ogwr Uchaf
Bydd yr ymgynghoriad anffurfiol yn cael ei gynnal o’r 18fed o Fehefin i’r 16eg o Orffennaf 2025.
Bydd partïon â diddordeb, trigolion lleol a rhanddeiliaid yn cael cyfle i weld y cynlluniau cychwynnol a rhannu eu hadborth cyn yr Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (Pre-Application Consultation) yn ddiweddarach eleni. Gall y broses hon helpu i adnabod unrhyw broblemau neu faterion a cheisio gwybodaeth leol i wella'r cynlluniau.
Bydd arddangosfa gyhoeddus yn cael ei chynnal hefyd lle gall pobl ddarganfod mwy a thrafod y cynigion gydag aelodau o dîm y prosiect.
Bydd arddangosfa gyhoeddus 2025 yn cael ei chynnal ar ddydd Mawrth y 1af o Orffennaf 2025, 14:00 - 20:00 yng Nghanolfan Menter Gymunedol Croeserw.
Gallwch lawrlwytho’r Byrddau Arddangos o’r arddangosfa gyhoeddus yma.
Gallwch lenwi'r ffurflen adborth yma.
Diogelu Data
Wedi’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn paratoi adroddiad ymgynghori interim i ddangos sut rydym wedi adolygu ac ymateb i’r holl adborth dderbyniwyd yn ystod y cyfnod cyn ein Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio yn ddiweddarach eleni.
Bydd unrhyw adborth sy’n cael ei dderbyn yn cael ei ddefnyddio at ddibenion y cais cynllunio yn unig ac yn cael ei anfon ymlaen at Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru. Ni fydd yn cael ei ddatgelu i unrhyw drydydd partïon.
Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu hanfon ymlaen yn gyfrinachol at PEDW fel y gallwch dderbyn hysbysiad am eu hymgynghoriad ar y cais. Ni fyddant yn cael eu rhestru mewn unrhyw ddogfennaeth cais cynllunio.
Er mwyn deall beth rydyn yn ei wneud gyda'ch data, darllenwch ein 'Polisi Preifatrwydd GDPR' yma.
Os hoffech i ni ddileu eich manylion, gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio'r manylion isod neu wrth ymweld â’r dudalen 'Cysylltu â Ni'.
Cysylltwch
Gallwch gysylltu â ni trwy’r dulliau canlynol:
- Ffôn: 01656 334 319
- E-bost: nged.upperogmore@nationalgrid.co.uk
- Post: Freepost GRASSHOPPER CONSULT (nid oes angen stamp na chyfeiriad pellach) Bydd y manylion cyswllt uchod yn eich rhoi mewn cysylltiad â Grasshopper Communications sy'n ein cefnogi gyda'r ymgynghoriad.